DATGANIAD I’R WASG

Adroddiad: Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus - datganiad gan Gadeirydd un o bwyllgorau'r Cynulliad

 

Mae Darren Millar AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi cyhoeddi'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru, sef Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus.

 

"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn rhoi trosolwg pwysig o'r cynnydd a wnaed gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ers 2011, a'r materion pwysig sydd ar y gorwel yn y blynyddoedd i ddod.  

 

"Cafwyd cynnydd cadarnhaol mewn rhai meysydd. Fodd bynnag, mae'n siomedig bod yr ansicrwydd ynghylch ffurf llywodraeth leol yn y dyfodol wedi atal cynghorau yng Nghymru rhag rhoi newidiadau sylweddol ar waith, ac yn siomedig hefyd nad yw gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach wedi symud yn gynt i drawsnewid y modd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu. 

 

"Efallai bod y rhagolygon ariannol ychydig yn well na'r disgwyl, ond ni all gwasanaethau cyhoeddus fforddio bod yn llaesu eu dwylo. 

 

"Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gwneud yn glir ein bod yn parhau i wynebu pwysau sylweddol o ran cyllid a galw yma yng Nghymru. Bydd angen i wasanaethau cyhoeddus ymateb i'r negeseuon pwysig y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn eu nodi yn yr adroddiad ac yn cynyddu cyflymder a graddau'r newidiadau y maent yn eu gwneud er mwyn sicrhau bod ganddynt sylfaen gynaliadwy. "

 

Mae'r adroddiad llawn, Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus, ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.